MyrddinHUGHESDymuna Laurina, Gwynn, Llŷr, Siôn a theulu y diweddar annwyl Myrddin Hughes, Cilmeri, 5 Môr Awel, Penygroes ddiolch o waelod calon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad trwy ymweliadau, cardiau, negeseuon ac am y rhoddion tu hwnt o hael tuag at Ward Strôc Ysbyty Eryri ac Ysgol Llanllyfni.
Diolch yn fawr i'r Parch Ddr Rhys Llwyd am wasanaeth angladdol arbennig iawn yng Nghapel Ebeneser Llanllyfni, i'r Parch Ddr Rosie Dymond am ei chymwynas yn cynorthwyo gyda'r darlleniadau, i Elena Mai am ddarllen cerdd, i Mrs Buddug Roberts, Dinas am gyfeilio mor fedrus ac i griw mawr a theilwng iawn o ffrindiau am fod yn bresennol.
Mae ein dyled yn fawr hefyd i Iolo a Staff Roberts ac Owen am eu gwaith proffesiynol ac urddasol iawn ac am eu cyfeillgarwch arbennig dros yr amser anodd yma.
Diolch yn fawr iawn bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Myrddin